Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Mehefin 2020
Amser:
12.30 -
13.48
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Jessica England, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at agenda dydd Mercher, a nododd y bydd yn cynnwys diweddariad ar dwristiaeth.
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â gofyn unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Ymyriadau
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i beidio ag anfon negeseuon Zoom at bawb, gan fod y rhain yn cael eu darlledu. Bydd hi'n galw i drefn unrhyw Aelodau sy'n gwneud hynny o'r wythnos hon ymlaen.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y bydd, cyn i'r siaradwr olaf ymateb i'r ddadl, yn cymryd cyfraniadau o un funud gan Aelodau a fydd am ymateb i rywbeth a ddywedwyd yn ystod y ddadl. Gallai hynny gynnwys Aelodau a oedd eisoes wedi siarad.
Sut i Ymuno
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes hysbysu'r Aelodau bod angen iddynt ddilyn yr un patrwm â'r wythnos diwethaf - i hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr pwy fydd yn bresennol, ac i gael eu ceisiadau siarad i mewn erbyn diwedd prynhawn dydd Mawrth os yw hynny'n bosibl.
Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau bod angen iddynt ymuno â'r cyfarfod am 10.30am (neu hanner awr cyn yr amser cychwyn os ydynt ond yn ymuno ar gyfer sesiwn y prynhawn), fan bellaf, i ganiatáu amser ar gyfer gwiriadau TG. Bydd angen i Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl 10.50am (neu 10 munud cyn dechrau unrhyw sesiwn) aros nes y bydd y cyfarfod wedi dechrau.
Egwyl
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cael yr egwyl ar ôl y Cwestiynau Amserol, am tua 12.20.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mercher 24 Mehefin 2020
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Amaeth (15 munud) -
wedi'i ohirio tan 15 Gorffennaf
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (15 munud)
Cytunodd Rheolwyr Busnes i amser cychwyn dros dro o 11.00 ar gyfer y Cyfarfod Llawn am y tro.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm at bwyllgor i graffu arno, o ystyried pa mor gyflym y mae disgwyl i'r Bil symud trwy ei gamau craffu yn Senedd y DU a bod y ddadl wedi'i hamserlennu ar gyfer y dydd Mercher hwn.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes fod y ddadl wedi'i threfnu am 30 munud yn hytrach na'r 15 munud arferol er mwyn ystyried diffyg craffu gan bwyllgor yn yr achos hwn.
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur a chytunwyd i ddod â'r dyddiad cau ymlaen ar gyfer adrodd ar Femorandwm y Bil Cyllid o 2 Gorffennaf i 18 Mehefin, oherwydd bod amserlen Senedd y DU wedi'i chyflymu.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau amserlennu gan y Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i sefydlu Pwyllgor y Llywydd, a gofynnwyd i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur gyda chynigion manylach o ran ei aelodaeth.
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Esboniodd y Trefnydd fod y Bil gyda'r Llywydd ar gyfer Penderfyniad ar hyn o bryd ac y bydd papur yn nodi amserlen arfaethedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf. Gofynnodd Sian Gwenllian yn ffurfiol i amser sydd ar gael cyn ei gyflwyno gael ei roi i lefarwyr pleidiau i drafod cynnwys y Bil gyda'r Gweinidog Addysg.
Dychwelyd i ystâd y Senedd
Gofynnodd y Llywydd am farn y Rheolwyr Busnes ynghylch dychwelyd busnes y Senedd i ystâd y Senedd. Nododd y Rheolwyr Busnes fod gwaith yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer unrhyw benderfyniad i ddychwelyd i'r adeilad, a chytunwyd ei bod yn bwysig ystyried yr egwyddorion a fyddai'n eu llywio i wneud penderfyniadau mewn perthynas â dychwelyd i'r adeilad. Gofynnwyd i'r ysgrifenyddiaeth am bapur yn amlinellu'r egwyddorion hyn, gan gynnwys cydraddoldeb, iechyd y cyhoedd a chysylltiadau gweithwyr, ac opsiynau ar gyfer Cyfarfod Llawn hybrid a chorfforol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i weithredu proses bleidleisio electronig o bell (gan Aelodau unigol) cyn gynted â phosibl.
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes ystyried cynnwys y Cyfarfod Llawn, yn enwedig ailgyflwyno cwestiynau a materion nad ydynt yn gysylltiedig â Covid.